Rhannwch eich barn a’ch profiadau o bolisïau’r amgylchedd a’r hinsawdd yng Nghymru

Nod y prosiect ymchwil yw cydnabod a rhoi llais i amrywiaeth o sylfeini gwybodaeth ac arbenigedd ar ddull Cymru o fynd i’r afael â materion amgylcheddol a’r hinsawdd drwy reoli tir a ffermio.
Mae manteision cymryd rhan yn y prosiect hwn yn cynnwys:
- Byddwch yn cael cyfle ac amser i rannu eich barn, eich profiadau a’ch gwybodaeth am faterion rydych yn nodi eu bod bwysig i chi.
- Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd fel grŵp i gael trafodaethau, i gynhyrchu syniadau, a rhannu gwybodaeth rhwng cymheiriaid.
- Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau, a fydd yn eich galluogi i gyfleu eich barn a’ch syniadau mewn ffordd newydd ac effeithiol.
- Byddwch yn rhan o grŵp sy’n cynhyrchu ffilm ar faterion o arwyddocâd i chi a byddwch yn cael cyfle i’w dangos i gynulleidfa, os byddwch yn dewis gwneud hynny.
- Byddwch yn cyfrannu at gynhyrchu syniadau a ymchwil a dadansoddi ymchwil, gan ysgogi cyfeiriad y prosiect, gyda’r potensial i ddylanwadu ar bolisi.
I gael mwy o wybodaeth, gweler y daflen wybodaeth i gyfranogwr sydd ynghlwm. Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: bsj3@aber.ac.uk