Ffermio mewn argyfwng: prosiect ymchwil PhD yn archwilio datrysiadau

Mae’r ymchwilydd PhD Bethan John yn gwahodd ffermwyr ledled Gorllewin Cymru i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil wedi’i arwain gan y gymuned sy’n mynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n wynebu cymunedau gwledig heddiw – o ansicrwydd economaidd a diogelwch bwyd i newid hinsawdd.

Trwy weithdai creu ffilmiau ac adrodd straeon yn greadigol, nod Bethan yw dod â ffermwyr ac amgylcheddwyr ynghyd i rannu profiadau bywyd a chyd-greu atebion sy’n adlewyrchu gwirionedd ffermio mewn cyfnod o argyfyngau sy’n gorgyffwrdd.

Wrth gynnal y gweithdai, nod Bethan yw creu lle ac amser i archwilio amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau, gan adeiladu ar dir cyffredin a datrys problemau ar y cyd.

Canlyniad y prosiect fydd ffilm neu gyfres o ffilmiau wedi’i chyd-greu gan y gymuned, bydd yn giplun o leisiau a gweledigaethau ffermwyr ac amgylcheddwyr, yn sgil y naws, cyfoeth a chymhlethdod, sy’n perthyn i brofiadau bywyd go iawn.

Mynd i’r afael â Gydnerthedd Gwledig drwy Gydweithredu

Mae’r prosiect ymchwil, sydd a’r bwriad i archwilio’r materion sy’n effeithio ar gymunedau gwledig yng Ngorllewin Cymru, yn bartneriaeth rhwng Ysgol Raddedig CyDA, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd, ac fe’i hariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau creadigol a chyd-gynhyrchiol i ddwyn cipolwg o’r materion sydd fwyaf perthnasol i’r cyfranogwyr, gyda’r nod o greu effaith polisi.

Bydd elfen gydweithredol y prosiect hwn yn dechrau’r hydref lenni, pan fydd Bethan yn cynnal cyfres o weithdai adrodd straeon a chreu ffilmiau gyda ffermwyr yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Adrodd Straeon a Chreu Ffilmiau: Twls er Newid

Mae cyfoeth o ymchwil academaidd sy’n cyfleu pwysigrwydd adrodd straeon a mynegiant creadigol fel ffyrdd o fyfyrio ar faterion cymhleth a helpu datrys problemau byd go iawn.

Mae Dr Cathy Cole, Uwch Ddarlithydd a goruchwyliwr prosiect CyDA yn dweud: “gall adrodd straeon ar y cyd weithredu fel pont i alluogi atebion cydweithredol i ddod i’r amlwg. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun ffermio, ble mae naratifau’r cyfryngau yn aml yn ddadunol. Mae cyfranogwyr yn yr astudiaeth hon yn poeni’n fawr am y tir, ac mae hyn yn dir cyffredin pwerus.”

Bydd y gweithdai adrodd straeon a gwneud ffilmiau yn cynnwys grŵp bach a byddant yn cael eu hwyluso yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y grŵp yn cael ei arwain trwy amrywiaeth o weithgareddau er mwyn cynhyrchu syniadau a thrafodaethau, tra’n darparu hyfforddiant mewn sgiliau adrodd straeon a gwneud ffilmiau. 

A’i wreiddiau yng Nghefn Gwlad Cymru

Fe dyfodd Bethan fyny mewn cymuned ffermio wledig ger Caerfyrddin, ac mae hi eisoes yn byw yng Ngogledd Sir Benfro. Mae hi wedi treulio ei gyrfa yn cofnodi straeon cymunedau gan archwilio’r materion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol cymhleth y maent yn eu hwynebu wrth lywio ac addasu i’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Mae ganddi ddiddordeb yn y ffordd y gall gwybodaeth gymunedol a gweithredu ar lawr gwlad ysgogi newid.

“Mae cyfoeth o arbenigedd i’w gael yn y cymunedau gwledig rwy’n byw ynddynt. Un o amcanion y prosiect hwn yw casglu a gwerthfawrogi’r wybodaeth yma, gan archwilio amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau bywyd i weld os ddaw datrysiadau i’r amlwg” eglura Bethan.

Hyd yn hyn, mae hi wedi cwblhau cyfres o gyfweliadau gyda ffermwyr ac amgylcheddwyr i archwilio cyfleoedd, heriau a thensiynau, yn enwedig mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Rhoddodd y cyfweliadau gyfle i gyfranogwyr rannu eu barn ar y materion yn ddienw ac mewn lleoliad preifat un-i-un. Mae’r themâu a ddaeth i’r amlwg o’r cyfweliadau yn llywio datblygiad gwaith grŵp y gweithdai ac maent yn rhan o fodd aml-ddull y prosiect, gyda’r pwrpas o ddefnyddio triongliant i gryfhau dilysrwydd honiadau ac i oresgyn gwendidau trwy beidio dibynnu ar un dull.

Os hoffech gymryd rhan yn y prosiect ond methu dod i’r gweithdai, cysylltwch â Bethan (e-bost bsj3@aber.ac.uk) i drafod opsiynau eraill a fyddai’n addas i chi.